Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

 

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

1.    Mae'r papur hwn yn ymateb i neges e-bost y Pwyllgor dyddiedig 16 Medi yn nodi pynciau a gwybodaeth benodol yr hoffai eu cael ymlaen llaw.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 

2.    Mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth, yn fwy nag unrhyw ddarn arall, yn greiddiol i raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon. Mae'n un o nifer fach o gyfreithiau tebyg ledled y byd.

 

3.    Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflawni nifer o ddyletswyddau sy'n cynnwys cyhoeddi canllawiau, cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a phenodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru.

 

4.    Yn ogystal, bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu ei phrosesau a'i gweithdrefnau ei hun er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf yn ogystal â dangos esiampl i gyrff cyhoeddus yng Nghymru; bydd hyn yn cynnwys y Siarter Datblygu Cynaliadwy.

 

5.    Mae cyhoeddi canllawiau yn ymwneud â chyrff cyhoeddus eraill, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a chynghorau cymuned y mae'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt mewn perthynas â chynlluniau llesiant lleol. Cyhoeddwyd pecyn o ganllawiau statudol ac anstatudol i ymgynghori arno ar 7 Medi. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 16 Tachwedd. Rwyf wedi sefydlu Grŵp Cynghori Technegol i oruchwylio'r gwaith ar y canllawiau, wedi'i gadeirio gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy sy'n ymadael. Drafftiwyd y canllawiau er mwyn osgoi bod yn rhy benodedig ac er mwyn annog cyrff cyhoeddus i ddehongli'r Ddeddf yn fwy gweithredol eu hunain o fewn eu hamgylchiadau unigryw. Rwyf yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau terfynol ddechrau blwyddyn nesaf cyn i'r dyletswyddau ddod i rym ym mis Ebrill 2016.

 

6.    Fel rhan o'r broses o ddatblygu dangosyddion cenedlaethol, gofynnwyd am gyngor gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. Fe'u hadolygwyd o fewn Llywodraeth Cymru a bwriedir cynnal ymgynghoriad allanol yn ddiweddarach eleni.

 

7.    Cynhaliwyd y cyfweliadau ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a gobeithio y caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd gan y Comisiynydd rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i ofynion y Ddeddf, a hefyd wrth gyflwyno adroddiadau ar gynnydd a gwneud argymhellion cysylltiedig lle y bo'r angen.

 

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

 

8.    Wrth gwrs, mae datblygu cynaliadwy eisoes yn un o egwyddorion canolog y system gynllunio. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno diben statudol ar gyfer y system gynllunio lle y bydd yn ofynnol i unrhyw gyrff cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau cynllunio sicrhau bod penderfyniadau defnydd tir yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

 

9.    Daw'r darpariaethau i rym ar ôl i ddarpariaethau perthnasol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym.

 

10. Yn ogystal, mae cyfres o is-ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau wrthi'n cael eu paratoi fel rhan o'r Ddeddf Cynllunio, a chyhoeddwyd nifer o ddogfennau ymgynghori eisoes. Cyn diwedd y flwyddyn, byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu yn disgrifio'r rhaglenni cyflenwi ar gyfer cyflwyno'r mesurau sy'n deillio o'r Ddeddf a gwelliannau eraill.

 

11. Fel mater o flaenoriaeth, byddaf yn cyflwyno system Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ddechrau flwyddyn nesaf ac yn cyflwyno gwelliannau pellach i weithdrefnau rheoli datblygiadau.

 

Datganoli Caniatadau Ynni

 

12. Mae dau fil yn cael eu cyflwyno yn y DU mewn perthynas â materion Ynni; Deddf Cymru a’r Bil Ynni. Bydd Deddf Cymru yn cyflwyno’r trefniadau cyffredinol ar gyfer datganoli Caniatadau Ynni; mae’r Bil Ynni a gyflwynwyd ar 9fed Gorffennaf yn cynnwys materion ynni sy’n ymwneud â Gwynt ar y Tir yng Nghymru. Mae’r Bil Ynni ger bron Pwyllgor yr Arglwyddi ar hyn o bryd, a chynhelir y sesiwn nesaf ar 14eg Hydref.

 

13.Mae'r Bil Ynni wedi cyflwyno'r mesurau canlynol mewn perthynas â Chaniatadau Ynni:

 

·         Cau'r cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ar gyfer gwynt ar y tir,

·         Caiff prosiectau gwynt mawr ar y tir, mwy na 50 MW, eu hepgor o'r diffiniad o'r broses ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol ac felly ni phenderfynir arnynt bellach gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

 

14. O ganlyniad i'r Bil Ynni, caiff y penderfyniad i roi caniatâd i ffermydd gwynt â chapasiti cynhyrchu o fwy na 50MW ei drosglwyddo i system cynllunio gwlad a thref. Cyhoeddwyd mai awdurdodau cynllunio lleol fydd yn gwneud penderfyniadau ar bob prosiect gwynt ar y tir yn y dyfodol yn Lloegr. Fodd bynnag, yng Nghymru, gan fod cynllunio yn swyddogaeth ddatganoledig, cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru fydd penderfynu sut y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.

 

15.Yn dilyn Deddf Cynllunio (Cymru) ac yn seiliedig ar ymatebion i ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y diffiniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, h.y. y ceisiadau hynny y dylid eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, ein nod yw y bydd is-ddeddfwriaeth ar waith yn ystod y Flwyddyn Newydd.  Gallai hyn olygu y caiff pob cais am fferm wynt ar y tir dros raddfa benodol, e.e. 25 MW, ei gyflwyno i Weinidogion Cymru. Dengys tystiolaeth yng Nghymru fod awdurdodau cynllunio lleol yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau ar geisiadau sy'n ymwneud ag ynni.

 

16.Yn y dyfodol, gall Llywodraeth Cymru wneud penderfyniad fel rhan o'i chylch gwaith yn datgan y caiff pob cais ar y tir dros raddfa benodol, e.e. 25MW, ei gyfeirio at Weinidogion Cymru.

 

17.Mae’r ddogfen Pwerau at Ddiben yn cynnig y dylid cyflwyno’r mesurau ynni canlynol o dan Fil Cymru:

 

·         Datganoli cyfrifoldeb dros yr holl ganiatadau datblygu cynllunio ynni ar gyfer prosiectau hyd at 350MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru.

·         Dylid datganoli cyfrifoldeb dros gyhoeddi trwyddedau morol mewn dyfroedd morol yng Nghymru.

 

18.Cyfyngedig fu'r trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU hyd yn hyn, yn ystod y cam hwn ar y materion ynni a gynigir yn Neddf Cymru.

 

19.Gyda’i gilydd, bydd y Bil Ynni a nod datganedig Llywodraeth y DU i wahardd prosiectau gwynt ar y tir rhag cyflwyno ceisiadau mewn cylchoedd o’r Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn y dyfodol mewn gwirionedd yn cau’r sector gwynt ar y tir i brosiectau newydd yng Nghymru.

 

20.Mae'r ffaith bod nifer o ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru wedi cael eu gwrthod yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU, yn erbyn cyngor arolygwyr, wedi atgyfnerthu'r farn na fydd gan Lywodraeth Cymru, heb reolaeth lawn dros ganiatadau ynni, lawer o ddylanwad dros yr agenda ynni yng Nghymru, yn wahanol i Ogledd Iwerddon neu’r Alban.

 

Ffracio

 

21.Rwyf wedi egluro safbwynt rhagofalol Llywodraeth Cymru ar ffracio yn gyson, yn fwyaf diweddar mewn ymateb i gyhoeddiadau Llywodraeth y DU am newidiadau i'r system gynllunio i gyflymu hynt prosesau i ymchwilio i nwy siâl.

 

22. Ein gweledigaeth yw dyfodol glân a gwyrdd gyda dulliau cynhyrchu ynni yn seiliedig ar fanteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy helaeth Cymru, sy'n darparu cyfleoedd cyffrous ac uniongyrchol. Nid yw'r technolegau sy'n sail i brosesau echdynnu olew a nwy anghonfensiynol wedi'u profi eto yn naeareg cymhleth y DU, ac ar y sail honno, dylem barhau â'n fframwaith polisi rhagofalol.

 

23.Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn ystyried p'un a ddylid cynnwys nwyeiddio glo tanddaearol o fewn cwmpas fy Nghyfarwyddyd Hysbysu i awdurdodau cynllunio lleol. Cyflwynaf adroddiad ar hyn maes o law.

 

24.O ran canllawiau, ceir dull gweithredu rhagofalol o fewn polisi cynllunio cenedlaethol cyfredol sy'n nodi'r effeithiau amgylcheddol y mae'n rhaid ymdrin â hwy er mwyn sicrhau na fydd unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, cymunedau na chymdeithas ehangach.

 

Rheoliadau Adeiladu

 

25.Ar ôl diddymu TAN22 (Y Polisi Cynllunio Cenedlaethol ar Adeiladau Cynaliadwy) yn 2014, mae agweddau cysylltiedig ar y Rheoliadau Adeiladu wrthi'n cael eu hadolygu. Rydym yn disgwyl ymgynghori ar newidiadau ddechrau flwyddyn nesaf.

 

26.Rydym yn cynnal adolygiad o'n polisi cyllid cyfalaf sy'n ei gwneud yn ofynnol i adeiladau newydd annomestig sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru gael marc Ardderchog neu farc cyfwerth ar gyfer Methodoleg Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM).

 

27.Mae Cyfarwyddeb Perfformiad Ynni mewn Adeiladau'r UE yn ei gwneud yn ofynnol i ni sicrhau bod adeiladau newydd 'Bron yn Ddi-ynni' o 2018 ar gyfer adeiladau cyhoeddus a 2020 ar gyfer pob adeilad newydd.  Mae angen i ni gydnabod pwysigrwydd economaidd y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru. Rhaid codi safonau mewn ffordd gosteffeithiol. Byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau ein bod yn cydbwyso'r angen i leihau'r galw am ynni gan dai newydd â'r angen i fodloni'r galw am dai newydd.

 

28.Llwyddodd fy newidiadau i Ran L ym mis Gorffennaf 2014, a ysgogwyd gan newidiadau a wnaed i fethodoleg BREEAM, i godi perfformiad ynni anheddau newydd 8% ar gyfartaledd o gymharu â safonau blaenorol 2010. Gwnaethom hefyd godi safonau adeiladau annomestig newydd 20% ar gyfartaledd, sef ddwywaith y cynnydd a gyflawnwyd yn Lloegr.

 

29.Cyflwynwyd darpariaeth ar gyfer cyflwyno'r gofynion ar gyfer chwistrellwyr yn raddol i'r rheoliadau. Cyflwynwyd y gofynion ar gyfer chwistrellwyr ar gyfer eiddo risg uchel, megis cartrefi gofal, ym mis Ebrill 2014. Mae'r gofynion ar gyfer pob annedd newydd a phob annedd wedi'i addasu yn berthnasol o fis Ionawr 2016.

 

30.Rwyf yn ymrwymedig i gynnal adolygiad pellach o ofynion perfformiad ynni'r Rheoliadau Adeiladu yn 2016.  Bydd yn rhaid i ni ystyried p'un a oes gan gynlluniau lleihau carbon oddi ar y safle ran i'w chwarae, yn enwedig o gofio bod Llywodraeth y DU yn cael gwared ar ei tharged ar gyfer cartrefi newydd di-garbon ac yn gohirio ei hadolygiad arfaethedig.

31.Bydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros seilwaith ynni i Weinidogion Cymru drwy Reoliadau Adeiladu yn sicrhau buddiannau cyfreithiol a gweinyddol drwy ddarparu rhaniad amlwg rhwng Cymru a Lloegr.

 

 

Llifogydd ac erydu arfordirol

 

32.Yn ystod oes y Llywodraeth, bydd dros £240 miliwn wedi cael ei fuddsoddi i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ategwyd hyn gan £47 miliwn pellach gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Bydd y buddsoddiad hwn yn lleihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol i fwy na 12,000 o eiddo, gan gynnwys mwy na 10,700 o gartrefi.

 

33.Mae ein Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol (CRMP) yn gyfle unigryw i fuddsoddi er mwyn rheoli'r perygl i'n cymunedau arfordirol o newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r CRMP yn ein rhaglen buddsoddi seilwaith cyfalaf ac o ran ein parodrwydd i gyfrannu 75% o gostau prosiect.

 

34.Rydym yn parhau â'n gwaith ar y cynllun cyflenwi arfordirol er mwyn rhoi'r 47 o argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad i lifogydd arfordirol gaeaf 2014/15 ar waith. Hyd yn hyn, cwblhawyd 11 o'r argymhellion a disgwylir y caiff 10 arall eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref.

 

35.Bydd Deddf arfaethedig yr Amgylchedd yn cyflwyno'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a fydd yn gorff ymgynghori/cynghori a fydd yn rhoi cyngor i mi gan Awdurdodau Rheoli Perygl Cymru ar bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol. Caiff ei ffurfio ar ôl diddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru (FRMW).

 

36.Bydd y pwyllgor newydd yn symud o'i rôl bresennol yn craffu ar raglen a chyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru gan mai Bwrdd CNC sy'n ymgymryd â'r swyddogaeth hon. Mae manylion llawn y pwyllgor wrthi'n cael eu hystyried o hyd, ond bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff rheoli perygl llifogydd eraill, a bydd cysylltiadau â'r cyrff hynny, gan adlewyrchu ei gylch gwaith fel corff cynghori ar bob agwedd ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

 

37.Ar hyn o bryd, disgwylir y caiff cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ei gynnal ym mis Medi 2016 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft.

 

Dŵr

 

38.Ym mis Mai, cyhoeddais y Strategaeth Ddŵr i Gymru sy'n nodi ein blaenoriaethau polisi allweddol ar gyfer Dŵr yng Nghymru dros gyfnod o 25 mlynedd a thu hwnt. Ein nod yw sicrhau bod dull gweithredu mwy integredig a chynaliadwy ar waith gennym ar gyfer rheoli ein dŵr a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Datblygwyd y Strategaeth o fewn cyd-destun ein polisi ehangach ar gyfer rheoli adnoddau naturiol a bydd yn cyfrannu at y broses o roi'r polisi hwnnw ar waith. Ategir y Strategaeth gan gynllun gweithredu lefel uchel ac mae gwaith eisoes ar y gweill ar nifer o ymrwymiadau polisi allweddol.

 

39.Er enghraifft, rydym yn gweithio'n benodol gyda Llywodraeth y DU i anelu at sicrhau y caiff pob mater sy'n ymwneud â dŵr a charthffosiaeth ei ddatganoli ac y caiff pŵer unochrog Llywodraeth y DU i ymyrryd mewn perthynas ag adnoddau dŵr yng Nghymru ei ddiddymu. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd dau ymgynghoriad gennym a fydd yn sicrhau systemau carthffosiaeth cynaliadwy ac yn ategu datrysiadau draenio cynaliadwy yng Nghymru.

 

40.Er mwyn rheoli ein hadnoddau dŵr yn well nawr ac yn y dyfodol, rydym hefyd wedi ymgymryd â gwaith helaeth a fydd yn ein galluogi i ddiwygio'r system trwyddedau echdynnu yng Nghymru a rheoli llawer o echdyniadau a wneir yn ddi-drwydded ar hyn o bryd.

 

41.Rydym hefyd wrthi'n cynnal adolygiad o'r holl Barthau Perygl Nitradau ac yn anelu at gyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ym mis Rhagfyr yn gofyn am farn y cyhoedd cyn gwneud penderfyniad terfynol. Mae'r Gyfarwyddeb Nitradau yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi dyfroedd arwyneb neu ddyfroedd daear â chrynodiad uchel o nitrad, neu y gallai fod ganddynt grynodiad uchel o nitrad, o ffynonellau amaethyddol. Pan gaiff corff dŵr ei nodi fel corff lle ceir perygl nitradau, caiff pob darn o dir sy'n draenio i'r dŵr hwnnw ei ddynodi'n Barth Perygl Nitradau. O fewn y parthau hyn, rhaid i ffermwyr gydymffurfio â rhaglen weithredu o fesurau sy'n cynnwys cyfyngu ar amseru a lefelau cymhwyso gwrteithiau a thail, a chadw cofnodion cywir.

 

Y Môr a Physgodfeydd

 

42. Mae angen ystyried y buddiannau economaidd a chymdeithasol i Gymru yng nghyd-destun rhwymedigaethau statudol Ewropeaidd. Mae'r rhain yn cynnwys gweithredu'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP), Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol (MSFD), a chyflwyno system gynllunio forol i Gymru. Mae'r Polisi a'r Gyfarwyddeb yn cynnwys targedau heriol y mae'n bendant yn rhaid i ni eu cyrraedd.

 

43. Mae MSFD Ewropeaidd 2008/56/EC yn gofyn i Aelod-wladwriaethau roi mesurau ar waith i sicrhau Statws Amgylcheddol Da mewn dyfroedd Ewropeaidd erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU yn ymrwymedig i ddatblygu Strategaeth Forol i'r DU er mwyn rhoi'r Gyfarwyddeb ar waith.

 

44. Mae Cyfarwyddeb Cynllunio Gofodol Morol yr UE 89/2014 yn cyflwyno'r gofyniad i bob Aelod-wladwriaeth gyflwyno cynlluniau morol erbyn mis Mawrth 2021 fan bellaf. Mae'r cynllun morol i Gymru ar y trywydd cywir i'w gyflwyno a bwriedir rhannu fersiwn drafft er mwyn i bobl allu cyflwyno sylwadau arno yn ystod yr hydref.

 

45. Mae Cynllun gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd yn nodi targedau heriol ar gyfer datblygu'r sector dyframaeth yng Nghymru a byddaf yn nodi Strategaeth Dyframaeth a ddatblygwyd ar y cyd â'r diwydiant er mwyn sicrhau budd economaidd hirdymor i Gymru.

 

46. Bydd Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn helpu i weithredu'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn sicrhau bod dyfodol trefniadau rheoli pysgodfeydd wedi'i ategu gan dystiolaeth briodol.

 

47.Rwyf yn ystyried cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru ar ardaloedd morol posibl i'w dynodi fel Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig newydd ar gyfer adar ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamhidyddion. Rhagwelaf y caiff ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ei gynnal yn ystod yr hydref.

 

Coedwigaeth

 

48.Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector coedwigaeth breifat i gyflawni ei gweledigaeth 50 mlynedd ar gyfer coed a choetiroedd - Coetiroedd i Gymru.

 

49.Rydym wrthi ar hyn o bryd yn nodi ffyrdd pellach o ysgogi coetiroedd newydd yng Nghymru a threfnwyd gweithdy i'w gynnal yn ddiweddarach yn y mis i ystyried yr union bwnc hwnnw. Bydd yn cynnwys aelodau o Banel Cynghori'r Strategaeth Coetiroedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr sefydliadau â diddordeb mewn coedwigaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn trafod sut y gall y sector coetiroedd gyfrannu at y nodau a fynegwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

50.Y bwriad wedyn yw rhoi Cynllun Gweithredu 5 mlynedd Coetiroedd i Gymru ar waith - a gaiff ei gyhoeddi a'i weithredu yn ystod y misoedd nesaf.

 

51.Rwyf hefyd wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i'n cynllun creu coetir Glastir ac rwyf yn annog y sector i roi cynigion newydd ac arloesol ar waith ar gyfer rheoli coetiroedd megis lleiniau cysgodi, mwy o goed trefol a chreu mwy o goetiroedd cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

 

52.At hynny, mae Defra a Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu bwriad i geisio datganoli swyddogaethau coedwigaeth ymhellach. Rwyf wedi eu hysbysu bod yn rhaid cynnal ein gallu i ddefnyddio gwasanaethau a rennir megis gwaith ymchwil ym maes coedwigaeth a wneir gan y Comisiwn Coedwigaeth ar hyn o bryd.

 

 

 

 

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Hydref 2015